top of page
Search
bachchoirswansea

Rhaglen yr hydref

Dyw’r haf ddim ar ben eto ond rydyn ni’n gyffrous i rannu manylion rhaglen yr Hydref. Mae gennym ddau gyngerdd ar y gweill y tymor hwn, a byddem wrth ein bodd yn eich gweld chi yno.



Ym mis Hydref, rydyn ni’n dod â chi ‘Yn y Llonyddwch’, casgliad hyfryd o gerddoriaeth fyfyriol ar gyfer côr a phiano, yn cynnwys darnau gan Tavener, Whitacre, Lauridsen, a Beamish. Cynhelir y gyngerdd nos Sul 16eg Hydref yn Eglwys Yr Holl Saint, Ystumllwynarth a byddwn yn cyhoeddi manylion llawn yn fuan.


Yn dilyn hyn, rydym yn falch iawn o gael dychwelyd i Neuadd Brangwyn ar gyfer perfformiad o 'Messiah' gan Händel. Mae’n berfformiad ddisgwyliedig o’r campwaith Nadolig hwn, ar ôl cael ei ohirio gan y pandemig, ond rydym yn hynod gyffrous i fod yn dychwelyd ato o’r diwedd.


Fel bob amser, byddwn yn postio mwy o fanylion yn fuan felly cadwch eich llygaid ar agor ac edrychwn ymlaen at eich gweld yno.


1 view0 comments

コメント


bottom of page