John Hugh Thomas
Llywydd Anrhydeddus
Cychwynnodd John Hugh Thomas ei yrfa broffesiynol yn Gyfarwyddwr Cerdd yn Ysgol y Brenin Edward, Stourbridge. Wedi tair blynedd yn y swydd honno, fe’i penodwyd yn Ddarlithydd Cerdd (Uwch Ddarlithydd yn ddiweddarach) ym Mhrifysgol Abertawe, swydd a lanwodd am ryw 30 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, ffurfiodd Gôr Bach Abertawe, a ddaeth i gael ei gydnabod fel un o gorau siambr mwyaf medrus y wlad, a sefydlodd Wythnos Bach Abertawe, un o wyliau cerddoriaeth gynnar rhyngwladol cyntaf y wlad. Yn ystod y cyfnod hwn roedd hefyd yn aelod o Gôr Heinrich Schütz a Chôr Monteverdi Llundain, ac yn perfformio yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop, yn Israel, yn Sgandinafia ac yn America.
Mae wedi arwain nifer o gerddorfeydd proffesiynol, gan gynnwys yr Hanover Band, Cerddorfa’r Oes Oleuedig a Cherddorfa Symffoni Gymreig y BBC, ac mae wedi bod yn arweinydd gwadd i lawer o gorau amatur a phroffesiynol, gan gynnwys y BBC Singers a Chorws Radio’r Iseldiroedd. Yn 1983 ffurfiodd Gorws Cymreig y BBC (BBCNOW), ac ef oedd y Corwsfeistr am ddeuddeg mlynedd, yn arwain nifer o gyngherddau a ddarlledwyd ac yn cydweithio â llawer o arweinwyr rhyngwladol o fri. Ef oedd un o’r cynorthwywyr adeg ffurfio Côr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru yn 1984, a bu’n arweinydd ar y côr hwnnw am dair blynedd, gan gloi ei gyfnod yn y swydd trwy arwain Cyngerdd Coffa blynyddol Bach yn Eglwys Sant Thomas, Leipzig, ym mis Gorffennaf 1992.
Mae wedi ysgrifennu a chyflwyno nifer o raglenni ar gyfer y radio a’r teledu, gan gynnwys cyfres ar ganeuon Schubert gyda Bryn Terfel a Malcolm Martineau, a ffilmiwyd yn Fiena, ac a gafodd ei dangos ar deledu’r BBC. O 1997-1999 ef oedd Pennaeth Astudiaethau Lleisiol yng Ngholeg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru. Ym mis Gorffennaf 1996 dyfarnwyd OBE iddo am ei wasanaeth i gerddoriaeth yng Nghymru, ac yn 2000 fe’i gwnaed yn Gymrawd o Goleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru.
Ef ffurfiodd Gôr Bach Abertawe yn 1965, ac mae’n dal i ymwneud â’r côr fel Llywydd ac arweinydd gwadd.