Alex Jenkins
Cyfeilydd
Bu Alex Jenkins yn darllen cerddoriaeth ym Mhrifysgol Nottingham, a graddiodd gyda BA(Anrh) ac MA. Fe’i penodwyd yn Gerddor Preswyl yn Ysgol Ysbyty Crist yng Ngorllewin Sussex am ddwy flynedd, a bu’n gweithio yno’n ddiweddarach fel athro piano gwadd. Graddiodd Alex gyda rhagoriaeth o’i MPerf mewn Cyfeilio ar y Piano yn y Coleg Cerdd Brenhinol (dan gyfarwyddyd Simon Lepper, Roger Vignoles ac Andrew Zolinsky). Yn ystod ei gyfnod yno, dyfarnwyd iddo Wobr Goffa Titanic am y perfformiad gorau gan bianydd yng Nghystadleuaeth Leisiol Lies Askonas, a gwobr cyfeilydd yng Nghystadleuaeth Cân Saesneg Brooks-van der Pump, a bu hefyd yn perfformio yn Neuadd Wigmore, Neuadd Frenhinol Albert ac Amgueddfa Victoria ac Albert.
Ar hyn o bryd mae’n gyfeilydd proffesiynol a hyfforddwr lleisiol yng Ngholeg Cerdd
Brenhinol Cymru, yn gweithio’n bennaf gyda’r adrannau Lleisiol, Arwain Corawl ac
Opera, ac mae’n gyfarwyddwr cerdd ar olygfeydd opera ôl-raddedig CBCDC, yn
ogystal â bod yn uwch-hyfforddwr lleisiol yn ei gyfnod preswyl rheolaidd yn Ysgol
Gerdd Sherborne yn ystod yr haf. Ym mis Rhagfyr 2022, ymddangosodd Alex ar y
teledu am y tro cyntaf yn bianydd mewn rhaglen ddogfen gan S4C, ochr yn ochr â
chorau Only Boys, Girls and Kids Aloud a’r soprano fyd-enwog Rebecca Evans.
Mae Alex yn gweithio’n rheolaidd gyda chorau, ac yn cyfeilio ar hyn o bryd i Gôr Bach Abertawe a Chôr Meibion Mynydd Cynffig a’r Cyffiniau. Ochr yn ochr â’r cyfoeth o gerddoriaeth leisiol mae Alex yn ymwneud â hi, mae hefyd yn aelod o Driawd Apollo, gyda’r fiolinydd Oliver Nelson a’r clarinetydd Paul Vowles, ar ôl cwblhau cyfres gyffrous o ddatganiadau haf yn ne Lloegr yn ddiweddar.