top of page

Canolfan Calon Lân

Capel Mynyddbach

Deilliodd Prosiect Calon Lân fel syniad o ddiddordeb o’r newydd yng Nghapel Mynyddbach a’i dreftadaeth gyfoethog. Yn 2011 roedd y capel ar drothwy adfail ond trwy gydymdrechion y Parchedig Grenville Fisher, Roy Church a chefnogaeth Cymdeithas Hanes Treboeth achubwyd yr adeilad. Sefydlwyd prosiect i annog a chynnal dealltwriaeth o dreftadaeth leol ac i sefydlu cydweithrediad â sefydliadau lleol eraill.

 

Mae gan y Mynyddbach dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog ac mae'n fan claddu Daniel James a gafodd yr enw Barddol Gwyrosydd. Mae prosiect Calon Lân wedi ei sefydlu i gynnal ac annog dealltwriaeth o’n treftadaeth leol. Prif nod y mudiad yw rhoi ymdeimlad o berthyn a hunaniaeth i gymunedau gan ddefnyddio hanes yr ardal leol a stori Calon Lân i ddod â phobl at ei gilydd. Capel Mynyddbach yw cartref a man claddu Gwyrosydd a ysgrifennodd ymhlith pethau eraill y geiriau i'r Emyn Cymraeg enwog Calon Lân.

 

Mae Côr Bach Abertawe yn falch o ddefnyddio’r capel fel lleoliad ac wrth wneud hynny, yn cyfrannu at ei dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog yng Nghymru.

mynyddbach chapel.jpg
bottom of page