top of page

Greg Hallam

Arweinydd

Mae Greg Hallam yn gyfarwyddwr corawl, canwr ac athro uchel ei barch. Mae’n Gyfarwyddwr Cerdd ar Gôr Bach Abertawe, Corws Gŵyl Reading a Chymdeithas Gorawl Bracknell. Mae’n un o raddedigion yr Academi Gerdd Frenhinol a’r Coleg Cerdd Brenhinol, ac yn 2019 dyfarnwyd ARAM (Aelod Cysylltiol o’r Academi Gerdd Frenhinol) i Greg am ei gyfraniad sylweddol i’r proffesiwn cerddoriaeth.


Mae’n arbennig o falch ei fod wedi helpu i sefydlu Côr Ieuenctid
Llundain, gan roi cyfarwyddyd i’w côr bechgyn a’u côr hyfforddi, a chyflwyno gweithdai fel rhan o’u cynllun ‘Aspire’. Bu Greg yn Gyfarwyddwr Cerdd Cynorthwyol ar Gorau Ieuenctid Cenedlaethol Prydain Fawr am sawl blwyddyn, ac ef ffurfiodd Gôr Ieuenctid Iau Ulster.


Fel athro canu yng Ngholeg Wellington ac Ysgol Cadeirlan Eglwys Crist, Rhydychen, mae Greg yn rhoi gwersi unigol i gantorion ifanc 8-18 oed. Mae’n cyflwyno gweithdai rheolaidd i gôr capel Coleg Worcester, Rhydychen, gan roi gwersi lleisiol i fyfyrwyr israddedig, a helpu i gynhyrchu eu pedwar recordiad diweddaraf. Mae’n diwtor ar y myfyrwyr arwain corawl ôl-raddedig yng Ngholeg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru, ac yn rhoi arweiniad iddynt ar ddefnyddio ystumiau a thechneg, yn ogystal â sut mae arwain ymarferion effeithlon ac effeithiol. Daw arddull Greg wrth arwain ac ymarfer o’i brofiadau fel canwr. Fel bariton mae Greg wedi canu gyda nifer o grwpiau sy’n cynnwys London Voices, Philharmonia Voices, Voces8 a Dieci Voices.


Ym mis Mehefin 2023 cynhaliodd Greg ei ‘Encil Corawl’ cyntaf ym Mhlasdy Glansevin, Llangadog, lle daeth 24 o bobl ynghyd i ganu cerddoriaeth a cappella hardd a bwyta danteithion bendigedig!

GH4 credit _bentomlinphotography.jpg
bottom of page