top of page
Rehearsal3.jpg

Amdanon Ni

Ffurfiwyd Côr Bach Abertawe gan John Hugh Thomas ym 1965, gyda’r nod penodol o gyflwyno’r gweithiau corawl gorau o’r pum canrif ddiwethaf i’r cyhoedd mor eang â phosibl ac mewn modd mor broffesiynol a dilys â phosibl. Mae’r côr yn perfformio yn rheolaidd yn yr ystod y flwyddyn, yn asiadau gweithiau corawl sanctaidd a chlasurol â chyfansoddiadau cyfoes, o dan arweinyddiaeth Greg Hallam. Mae John Hugh yn parhau i gymryd rhan weithredol fel Llywydd Anrhydeddus. Yn 2023, cyhoeddodd y côr mai Elin Manahan Thomas oedd ein noddwr.

Noddwr: Elin Manahan Thomas

"Mae'n fraint ac yn bleser enfawr cael cryfhau fy nghysylltiad â Chôr Bach Abertawe - dyma ble ddechreuais i ar yrfa gerddorol ac ar gariad tuag at ganu o bob math.I have had the huge pleasure of being every side of the stage with Swansea Bach, from a chorister with the inimitable John Hugh, to a soloist for Greg, to a delighted audience member – and wherever you sit in a Swansea Bach Choir concert, you can’t fail to be amazed and inspired by the depth of musical knowledge, the scale and breadth of the repertoire and the excellence of the music-making. Add to this the camaraderie, the wonderful community of musicianship and friendship, and the extraordinary commitment to bringing performances alive for audiences of all ages, and you have the perfect recipe for a choir that stands way out from the crowd. Approaching 60 years is a worthy milestone to commemorate, and gives us an excellent reason to celebrate. Llongyfarchiadau i bawb, a diolch am ddegawdau o ysbrydoliaeth a cherddoriaeth i’w cofio. Ymlaen!"

Hanes

Dros gyfnod o fwy na hanner canrif mae’r côr wedi datblygu repertoire eang, ac

mae’n arbennig o adnabyddus am ei berfformiadau o gerddoriaeth Faróc, gan ei fod wedi cyflwyno nifer o brif weithiau cyfansoddwyr fel Bach, Monteverdi, Handel a Haydn gyda cherddorfeydd cyfnod.

Ei berfformiad o’r Matthäus-Passion, a roddwyd gyda Cherddorfa Oes yr Oleuedigaeth, oedd y tro cyntaf i’r campwaith mawr hwn gael ei glywed yng Nghymru yng nghwmni cerddorfa gyfnod. Perfformiadau cyntaf eraill fel hyn yn cynnwys Johannes-Passion a'r Mass in B Minor gan Bach, Vespers gan Monteverdi o 1610, King Arthur gan Purcell, Messiah, a nifer o offerennau Haydn, i gyd yn gyfeiliant cerddorfeydd cyfnod o Lundain. 

 

Ym mhen arall y sbectrwm hanesyddol, maent yn cyflwyno Vespers gan Rachmaninov, y tro cyntaf gan gôr Cymreig, i ganmoliaeth fawr. Mae’r côr wedi perfformio gweithiau pwysig gan Rachmaninov, Pizzetti, Frank Martin, Howells, Britten a Duruflé, yn ogystal â gweithiau gan sawl cyfansoddwr modern o Gymru.

Margam2.jpg

Mwy Amdanon Ni

bottom of page