top of page
Ymunwch â'n Cynllun Cyfeillion a Chefnogwyr
Fel côr, rydym wrth ein bodd yn perfformio i gynulleidfaoedd gwerthfawrogol a brwdfrydig. Y ffordd hawsaf i’n cefnogi yw prynu tocynnau i’n cyngherddau, a dod â’ch ffrindiau a’ch teulu draw i’n clywed yn perfformio.
Os ydych chi'n teimlo yr hoffech chi wneud mwy, mae sawl ffordd y gallwch chi ein helpu ni. Dilynwch y dolenni isod i ddarganfod mwy am sut y gallwch chi helpu i sicrhau y gallwn barhau i ddod â’r gweithiau corawl mwyaf prydferth o’r pum canrif ddiwethaf i Dde Orllewin Cymru.
Os ydych chi ar gyfryngau cymdeithasol, gallwch chi hefyd ein cefnogi trwy hoffi a rhannu ein postiadau ar Facebook, Instagram, a TikTok.
bottom of page