Mae Côr Bach Abertawe wedi cael gwahoddiad i dreulio penwythnos fel côr preswyl yn lleoliad hyfryd Abaty Caerfaddon fis Awst eleni. Dyma’r gwahoddiad cyntaf o’i fath i ni ei gael ers nifer o flynyddoedd – ers cyn i’r pandemig roi bwlch ar gynifer o’n cynlluniau.
Mae’n anrhydedd enfawr cael ein holi ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at dreulio’r penwythnos yn ymgolli yn y testunau corawl a litwrgaidd yr ydym yn brysur yn eu paratoi. Byddwn yn ymgorffori gweithiau gan Rheinberger, Byrd, Stanford a mwy yn ein rhaglen ar gyfer y penwythnos, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddod â’n dehongliadau o’r darnau hyn i leoliad mor odidog.
Bydd y côr yn canu yn y gwasanaethau canlynol dros y penwythnos:
Dydd Sadwrn 6ed Awst – 5pm – Hwyrol Weddi Corawl
Dydd Sul 7 Awst – 11.30am – Ewcharist a Genir
Sul 7 Awst – 3.30pm – Hwyrol Weddi Corawl
Ffoto gan Elizabeth Jamieson ar Unsplash
コメント