top of page
Search
bachchoirswansea

Mae'r gwanwyn bron yma

... a gall hynny olygu un peth yn unig.

Mae hi bron yn amser ar gyfer ein cyngerdd Gwanwyn!

Eleni, rydym yn hynod gyffrous i fod yn cyflwyno Requiem gan Duruflé, gwaith hyfryd sy'n dod â'r côr ynghyd â lleisiau unigol a'r organ. Bydd un o aelodau newydd ein côr, Grace Curtis yn canu’r unawd soprano, ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu David Le Prevost yn ôl, a fydd yn canu’r unawd bariton. Rydym hefyd yn falch iawn o groesawu Shean Bowers, sydd wedi gweithio o'r blaen yn Abaty Caerfaddon a'r BBC Daily Service, i ganu'r organ.

Mae'r cyngerdd hefyd yn cynnwys Five Mystical Songs gan Vaughan Williams, Pater Peccavi gan Duarte Lobo ac 4 Motets gan Duruflé.

Mae tocynnau ar gael gan Fiona (07966 192097 neu fionawells20@hotmail.com) neu gallwch brynu tocynnau gan Eventbrite. ( https://www.eventbrite.co.uk/e/545340858187 )

Edrych ymlaen at eich gweld chi yno!

1 view0 comments

Comments


bottom of page