top of page
Search

Dyma Alex

Y tymor yma, mae Côr Bach Abertawe wedi cael y pleser o gael cwmni Alex Jenkins fel ein cyfeilydd yn ystod ymarferion. Graddiodd Alex o Brifysgol Nottingham a’r Coleg Cerdd Frenhinol, ac mae wedi gweithio’n eang fel cyfeilydd i gorau a chantorion ar draws y DU.



Mae wedi perfformio mewn nifer o leoliadau mawreddog a diddorol, gan gynnwys Neuadd Wigmore ac amgueddfa'r V&A. Mae bellach yn gweithio fel cyfeilydd proffesiynol a hyfforddwr lleisiol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd Cymru, gan weithio’n bennaf gyda’r adrannau Lleisiol, Arwain Corawl ac Opera. Rydym yn falch iawn o gael ei gwmni yn ein hymarferion yr Hydref hwn ac yn gobeithio ei fod wedi mwynhau’r profiad cymaint ag sydd gennym hyd yn hyn.


Bydd Alex yn perfformio gyda ni yn ein cyngerdd sydd i ddod ar ddydd Sul 16 Hydref yn Eglwys Yr Holl Saint yn Ystumllwynarth. Byddwn yn canu nifer o ddarnau i gyfeiliant piano a gobeithio y byddwch yn ei fwynhau cymaint â ni!

1 view0 comments

Comments


bottom of page