top of page
Search

Carolau yn y Cyrtiau

Ychydig cyn y Nadolig, aeth rhai o aelodau’r côr ar ymweliad ag Ysbyty Treforys i ledaenu hwyl yr Ŵyl trwy ganu carolau, gan gadw pellter cymdeithasol wrth gwrs!

Trefnwyd y digwyddiad trwy rai o’n haelodau sy’n gweithio yn yr ysbyty, ac roedd yn gyfle hyfryd i gyflwyno peth cerddoriaeth Nadoligaidd i’r staff a’r cleifion yno. Hwn oedd yr ail dro i ni fedru ymweld adeg y Nadolig, ac yn ogystal â mwynhau cyfle i ganu carolau gyda’n gilydd, gobeithio ein bod wedi codi calonnau pawb.

Yr her fwyaf, wrth gwrs, oedd cadw ein haelodau’n ddiogel rhag COVID i sicrhau bod yr ymweliad yn llwyddiant, ac rydyn ni’n arbennig o ddiolchgar i aelodau’r pwyllgor a fu’n gweithio mor galed i’n cadw ni’n ddiogel. Yn ffodus, mae gan Ysbyty Treforys nifer o gyrtiau sydd wedi’u hamgylchynu gan wardiau ac unedau dydd, felly roedd modd i ni ganu gyda’n gilydd i gynifer o bobl â phosib – er gwaetha glaw mân Abertawe! Tynnwyd y llun yma yn ein hoff gwrt, oedd wedi cael ei addurno’n hardd dros ben ar gyfer y Nadolig.

Rydyn ni’n gobeithio bod pawb wedi mwynhau’r ymweliad gymaint ag y gwnaethon ni, ac y cawn ni eich gweld chi eto y Nadolig nesa!

1 view0 comments

Comments


bottom of page