CREU CERDDORIAETH
WEFREIDDIOL –
GYDA’N GILYDD
Ffurfiwyd Côr Bach Abertawe yn 1965 gyda'r nod o gyflwyno gweithiau corawl gorau y pum canrif diwethaf i gynulleidfa mor eang â phosib, ac mewn modd mor broffesiynol a dilys â phosib. Mae llawer o'i ddeugain aelod yn gantorion hyfforddedig, yn fyfyrwyr cerdd, ac yn athrawon cerdd.
adolygiadau
"Go brin bod ffordd well o ymlacio yn holl brysurdeb y cyfnod cyn y Nadolig nag eistedd yn ôl a mwynhau canu persain Côr Bach Abertawe”
South Wales Evening Post
"Tonnau Rhyfeddol o Sain"
Neil Reeve of Seen and Heard International.
"Anaml y gwelais berfformiad o'r greadigaeth wych hon oedd â’r fath eglurder ac argyhoeddiad. Mae’n anodd curo Côr Bach Abertawe, sy'n adnabyddus am berfformiadau agos at berffeithrwydd o lawer o'r campweithiau cysegredig."
South Wales Evening Post
"Roedd y côr, sydd bob amser yn sensitif i ddehongliadau hynod gerddorol a deallus eu cyfarwyddwr, John Hugh Thomas, yn ddihafal yn y fan hon. Roedd eu sain yn gyfoethog, y geiriau'n glir, a chyflwynwyd drama golygfa'r croeshoeliad yn gynnil."
Guardian