Cafodd ein cyngerdd diweddaraf “Gosod Garlant” ei berfformio ar ddydd Sadwrn 1af Mehefin 2023 yn Eglwys Teilo Sant, Llandeilo i gynulleidfa … a diolchgar. Roeddem hapus iawn i ddychwelyd i Landeilo a chanu yn yr acwstig cynnes yn yr eglwys yna. Yn dilyn hynny, roedd derbyniad ble gallai’r côr a’u cefnogwyr fwynhau swper a chymdeithasu yn y tŷ a thir Plas Glansefin.
Cyhoeddodd Greg Hallam, arweinydd y côr, fod Elin Manahan Thomas wedi cytuno i fod yn Noddwraig Cerddorol. Mae hyn yn newyddion newydd iawn, felly yn anffodus nid allai hi fod yn bresennol wedyn, ond gobeithiwn y bydd hi’n gallu dod i’n digwyddiadau yn y tymor nesaf. Roedd Elin yn aelod o’r côr ac astudiodd hi o ddan ein Llywydd, John Hugh Thomas, ac rydym yn falch iawn i gael ei chefnogaeth.
Yn y derbyniad, cyhoeddwn gynllun cefnogwyr newydd. Bydd hyn ar ein gwefan cyn gynted ag y byddem wedi coethi’r manylion. Yn gyffredinol, rydym yn croesawu rhoddion gan ein dilynwyr agos sydd yn cefnogi’r gofynion ariannol y côr, yn arbennig yn ystod yr amseroedd cynnil yma. Dyma ein Cefnogwyr.
Mae’r Cyfeillion Cyfrannol yn ffrindiau hir sefydlog y côr sy’n gwneud cyfraniad bach yn rheolaidd. Bydd ein ffrindiau sydd wedi tanysgrifio i’n rhestr bostio, yn cael eu gwahoddiad i wneud rhoddion unwaith ac am byth, ond y rhan fwyaf
yn bwysig iawn byddant yn clywed am ein cyngherddau a digwyddiadau ac yn eu mynychu, rydym yn gobeithio.
Mae Côr Bach Abertawe wrth ei fodd yn canu i gynulleidfa, ac roedd yn bleser cael cynulleidfa lawn yn Teilo Sant.
Comments