Yn dilyn egwyl ddigroeso o ddwy flynedd, fwy neu lai, mae Côr Bach Abertawe yn ôl! Ddydd Sadwrn, 13 Tachwedd buom ni’n perfformio Ein Deutsches Requiem Brahms yn Eglwys yr Holl Saint, Ystumllwynarth, gan ddefnyddio fersiwn y cyfansoddwr ei hun i ddau bianydd.
Er ein bod wedi gorfod cyfyngu ar y nifer yn y gynulleidfa, cafwyd derbyniad brwd i’n perfformiad byw. Roeddem ninnau yr un mor frwd a llawen ein bod ni’n cael canu’n gyhoeddus unwaith yn rhagor, yn enwedig gan ein bod yn gwneud hynny heb fygydau. Sicrhawyd amgylchedd mor ddiogel â phosibl i’r gynulleidfa a’r perfformwyr trwy baratoi asesiad risg a phrotocolau manwl, wedi’u pwyso a’u mesur yn ofalus. Rydym ni’n cydnabod y gwaith ychwanegol sylweddol a wnaed gan amrywiol aelodau o’r pwyllgor ac eraill i gyflwyno’r cyngerdd hwn; rydym yn ddiolchgar i bawb ohonynt. Byddwn yr un mor ofalus gyda’r trefniadau ar gyfer ein cyngerdd nesaf, yn Eglwys Sant Gabriel, Brynmill, a chyhyd ag y bydd yr amgylchiadau’n galw am hynny.
Rydym ni’n ddiolchgar dros ben i’n Cyfarwyddwr Cerddorol, Greg Hallam, am ein hysbrydoli â’i arweiniad brwd, i’r ddau bianydd, Jeffrey Howard a Rhiannon Pritchard, ac i’r ddau unawdydd, Jessica Cale, Soprano, a David Le Prevost, Bariton, am bortreadu cerddoriaeth Brahms mewn modd mor odidog. Er nad oedd yn fwriad gennym gyflwyno perfformiad coffa, roedd yr Alargan yn waith addas i’w berfformio ar noswyl Sul y Cofio 2021.
Symudwn ymlaen yn awr i ymarfer rhaglen o gerddoriaeth Nadolig i’w pherfformio yn Eglwys Sant Gabriel ddydd Sul, 12 Rhagfyr, a charolau i’w canu yn Ysbyty Treforys y diwrnod blaenorol. Mae gwefan newydd y côr (diolch Cate!) yn cynnwys manylion cyfres amrywiol a chyffrous o gyngherddau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer gwanwyn a haf 2022. Edrychwn ymlaen at ganu i chi eto’n fuan.
Comentários